GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 11.30am ar 2 Ebrill 2014 yn Nhŷ Hywel
YN BRESENNOL:
Janet Finch-Saunders AC (JFS) |
Cadeirydd |
Keith Davies AC (KD) |
Aelod |
Russell George AC (RG) |
|
Rhodri Glyn Thomas AC (RGT) |
|
Edward Woodall (EW) |
ACS |
Rosemary Thomas (RT) |
Llywodraeth Cymru |
Jon Fudge (JF) |
Llywodraeth Cymru |
Mair Roberts (MRR) |
Ysgrifennydd |
Rhodri Evans (RE) |
Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru |
Ian Hunt |
Archfarchnadoedd Filco |
Mark Roberts (MR) |
The Co-operative Group |
Emma Sands (ES) |
Swyddfa Grŵp y Ceidwadwyr |
Craig Lawson (CL) |
Suzy Davies AC |
Sophie Traherne (ST) |
Swyddfa Grŵp y Ceidwadwyr |
2.CYFLWYNIAD
Croesawodd y cadeirydd bawb i drydydd cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol, a chyflwynodd Rosemary Thomas a Jon Fudge, a fyddai’n rhoi cyflwyniad ar y Bil Cynllunio sydd i ddod, ac ar agweddau ar fânwerthu a chanol trefi o Bolisi Cynllunio Cymru.
2.CYFLWYNIADAU GAN GYNRYCHIOLWYR O IS-ADRAN CYNLLUNIO LLYWODRAETH CYMRU
Rhoddodd RT a JF o Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru gyflwyniadau ar y Bil Cynllunio sydd ar y gweill, ac ar agweddau ar Bolisi Cynllunio Cymru sy’n berthnasol i’r Grŵp Trawsbleidiol.
Dechreuodd RT y cyflwyniad, drwy amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cynllunio drwy’r Bil Cynllunio, ac amlygodd fwriad y Llywodraeth i sicrhau bod fframwaith cyson yng Nghymru. Dywedodd y byddai’r Bil yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, gyda’r nod ei fod yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn 2015, a bod newidiadau mewn strwythurau cyflawni mewn grym o 2016 ymlaen.
Soniodd JF am Bolisi Cynllunio Cymru, gan gyfeirio’n benodol at yr ystyriaeth o siopau manwerthu a busnesau sydd wedi’u lleoli yng nghanol trefi. Tynnodd sylw at y ffaith bod Polisi Cynllunio Cymru wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd, yn unol ag anghenion, ers ei gyflwyno yn 2002. Soniodd am Gynlluniau Datblygu Lleol, a dywedodd fod gan dros 60% o awdurdodau lleol Cymru eu cynllun eu hunain erbyn hyn.
Rhoddodd JF wybod i’r grŵp hefyd am y gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd â Phrifysgol Southampton, ar adolygu’r Polisi Cynllunio, sydd i gael ei gyhoeddi cyn y Pasg, 2014. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys polisïau ar y ffordd orau o ddiogelu canol trefi.
Nododd pa mor bwysig yw bod mânwerthwyr yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, i ddatblygu partneriaethau effeithiol ac atebion lleol.
Trafodaeth
Yn dilyn y cyflwyniad, trafodwyd nifer o faterion a oedd yn deillio ohono:
Y fantais sydd i fânwerthwyr mawr o ymgysylltu â’r Broses Gynllunio
Cododd JFS bryderon bod gan fânwerthwyr mawr ac archfarchnadoedd fwy o adnoddau i ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio lleol. Roedd aelodau eraill o’r Grŵp hefyd yn pryderu, y gallai mânwerthwyr mawr ddefnyddio arbenigedd ymgynghorwyr i’w helpu gyda cheisiadau cynllunio; yn aml nid yw hwn yn opsiwn sy’n bosibl i fânwerthwyr llai. Awgrymwyd hefyd nad oes gan awdurdodau lleol yr arbenigedd bob amser i frwydro yn erbyn datblygiadau a gaiff eu cyflwyno gan siopau mwy ar gyrion trefi.
Goblygiadau gostwng nifer yr awdurdodau lleol
Gofynnodd JFS a fyddai’r Bil Cynllunio yn effeithiol os penderfynir gostwng nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol agos. Nododd RT a JF y bydd y Bil Cynllunio wedi’i ddiogelu at y dyfodol, ac y bydd yn effeithiol ni waeth faint o gynghorau a fydd yng Nghymru yn y dyfodol.
Defnyddio Polisïau Canol Trefi
Mynegodd EW bryderon na fu’r polisi Canol Trefi’n Gyntaf o fewn y Polisi Cynllunio yn Lloegr yn effeithiol hyd yma i atal datblygiadau y tu allan i drefi. Nododd JF ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganol trefi, drwy’r ymgyrch Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Hefyd tynnodd IH sylw at yr anhawster sydd gan fusnesau lleol i adfywio eu stryd fawr, oherwydd y diffyg arian sydd ar gael ar gyfer mentrau adfywio ar hyn o bryd.
Y camau nesaf
CYTUNWYD y byddai cyflwyniad RT a JF yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Grŵp.
CYTUNWYD hefyd y bydd y Grŵp yn ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ynghylch materion cynllunio sy’n berthnasol i siopau bach, fel rhan o’i waith o graffu ar y Bil Cynllunio.
Clöwyd y cyfarfod gan JFS.